Chapter 12 of 18 · 191 words · ~1 min read

III.

Llyw y sy'n synhwyrfawr riydd, Lliwgoch i lafnawr, aesawr uswydd, Lliw deifniawg, llidiawg, lledled fydd ei blas, Llwyr waeth yw ei gas noi garennydd. _Llewelyn_ gelyn, galofydd, Llwyrgyrch darogan cymman celfydd, Ni thyccia rhybudd hael rebydd rhagddaw, Llaw drallaw drin wychydd. Y gwr ai rhoddes yn rhwyf dedwydd, Ar _Wynedd_ arwynawl drefydd, Ai cadarnhao, ced hylwydd yn hir, I amddeffyn tir rhag torf oswydd. Nid aniw, nid anhoff gynnydd, Neud enwawg farchawg, feirch gorewydd, I fod yn hynod hynefydd _Gymro_, A'r _Gymry_ a'u helfydd. Ef difeiaf Naf rhy wnaeth Dofydd, Yn y byd o bedwar defnydd, Ef goreu riau reg ofydd a wnn, Eryr _Snawtwn_ aer gyfludwydd. Cad a wnaeth, cadarn ymgerydd, Am gyfoeth, am Gefn Gelorwydd, Ni bu gad, hwyliad hefelydd gyfred, Er pan fu weithred waith _Arderydd_. Breisclew _Mon_, mwynfawr _Wyndodydd_, Bryn _Derwyn_ clo byddin clodrydd, Ni bu edifar y dydd i cyrchawdd, Cyrch ehofn essillydd. Gwelais wawr ar wyr lluosydd, Fal gwr yn gwrthladd cywilydd, A welei _Lewelyn_, lawenydd dragon, Ynghymysc _Arfon_ ac _Eiddionydd_, Nid oedd hawdd llew aerflawdd lluydd, I dreissiaw gar Drws Daufynydd, Nis plygodd Mab Dyn bu doniawg ffydd, Nis plycco Mab Duw yn dragywydd.