I.
Gredyf gwr oed gwas Gwrhyt am dias Meirch mwth myngvras A dan vordwyt megyrwas Ysgwyt ysgauyn lledan Ar bedrein mein vuan Kledyuawr glas glan Ethy eur aphan Ny bi ef a vi Cas e rof a thi Gwell gwneif a thi Ar wawt dy uoli Kynt y waet elawr Nogyt y neithyawr Kynt y vwyt y vrein Noc y argyurein Ku kyueillt ewein Kwl y uot a dan vrein Marth ym pa vro Llad un mab marro