LXXXIX.
Dienhyt y bob llawr llanwet E hual amhaual afneuet Twll tall e rodawr Cas o hir gwythawc Rywonyawc diffreidyeit Eil gweith gelwideint a mallet Yg catveirch a seirch greulet Bedin agkysgoget yt vyd cat voryon Cochro llann bann ry godhet Trwm en trin a llavyn yt lladei Garw rybud o gat dydygei Cann calan a darmeithei Ef gwenit adan vab ervei Ef gwenit adan dwrch trahawc Un riein a morwyn a mynawc A phan oed mab teyrn teithyawc Yng gwyndyt gwaed glyt gwaredawc Kyn golo gweryt ar rud Llary hael etvynt digythrud O glot a chet echyawc Neut bed garthwys hir o dir rywonyawc