Chapter 6 of 170 · 106 words · ~1 min read

VI.

Gwyr a aeth Ododin chwerthin ognaw Chwerw en trin a llain en emdullyaw Byrr vlyned en hed yd ynt endaw Mab botgat gwnaeth gwynnyeith gwreith e law Ket elwynt e lanneu e benydyaw A hen a yeueing a hydyr a llaw Dadyl diheu angheu y eu treidaw

Gwyr a aeth Ododin chwerthin wanar Disgynnyeis em bedin trin diachar Wy lledi a llavnawr heb vawr drydar Colovyn glyw reithuyw rodi arwar

Gwyr a aeth gatraeth oed fraeth eu llu Glasved eu hancwyn a gwenwyn vu Trychant trwy beiryant en cattau A gwedy elwch tawelwch vu Ket elwynt e lanneu e benydu Dadyl dieu angheu y eu treidu