LXXIV.
Keint amnat am dina dy gell Ac ystauell yt uydei dyrllydei Med melys maglawr Gwrys aergynlys gan wawr Ket lwys lloegrwys lliwedawr Ry benyt ar hyt yd allawr Eillt wyned klywere arderched Gwananhon byt ved Savwy cadavwy gwyned Tarw bedin treis trin teyrned Kyn kywesc daear kyn gorwed But orfun gododin bed
Bedin ordyvnat en agerw Mynawc lluydawc llaw chwerw Bu doeth a choeth a syberw Nyt oed ef wrth gyued gochwerw Mudyn geinnyon ar y helw Nyt oed ar lles bro pob delw
An gelwir mor a chynnwr ym plymnwyt Yn tryvrwyt peleidyr peleidyr gogymwyt Goglyssur heyrn lliveit llawr en assed Sychyn yg gorun en trydar Gwr frwythlawn flamdur rac esgar
Dyfforthes cat veirch a chatseirch Greulet ar gatraeth cochre Mae blaenwyd bedin dinus Aergi gwyth gwarth vre An gelwir ny faw glaer fwyre Echadaf heidyn haearnde