Chapter 14 of 170 · 82 words · ~1 min read

XVII.

Anawr gynhoruan Huan arwyran Grwledic gwd gyffgein Nef enys brydein Garw ryt rac rynn Aes elwrw budyn Bual oed arwynn Eg kynted eidyn Erchyd ryodres E ved medwawt Yuei win gwirawt Oed eruit uedel Yuei win gouel Aerueid en arued Aer gennin vedel Aer adan glaer Kenyn keuit aer Aer seirchyawc Aer edenawc Nyt oed diryf y ysgwyt Gan waywawr plymnwyt Kwydyn gyuoedyon Eg cat blymnwyt Diessic e dias Divevyl as talas Hudid e wyllyas Kyn bu clawr glas Bed gwruelling vreisc