Chapter 47 of 170 · 86 words · ~1 min read

LVIII.

O winveith a medweith Dygodolyn gwnlleith Mam hwrreith Eidol enyal Ermygei rac vre Rac bronn budugre Breein dwyre Wybyr ysgynnyal Kynrein en kwydaw Val glas heit arnaw Heb giliaw gyhaual Synnwyr ystwyr ystemel Y ar weillyon gwebyl Ac ardemyl gledyual Blaen ancwyn anhun Hediw an dihun Mam reidun rwyf trydar

O winveith a medweith yd aethant E genhyn llurugogyon Nys gwn lleith lletkynt Cyn llwyded eu lleas dydaruu Rac catraeth oed fraeth eu llu O osgord vynydawc wawr dru O drychant namen un gwr ny dyvu