XXXVI.
Ny wnaethpwyt neuad mor diessic No Chynon lary vronn geinnyon Wledic Nyt ef eistedei en tal lleithic E neb a wanei nyt adwenit Raclym e waewawr Calch drei tyllei vydinawr Rac vuan y veirch rac rygiawr En dyd gwyth atwyth oed e lavnawr Pan gryssyei gynon gan wyrd wawr
Disgynsit en trwm yg kessevin Ef diodes gormes ef dodes fin Ergyr gwayw rieu ryvel chwerthin Hut effyt y wrhyt elwry elfin Eithinyn uoleit mur greit tarw trin
Disgynsit en trwm yg kesseuin Gwerth med yg kynted a gwirawt win Heyessyt y lavnawr rwg dwy vydin Arderchawc varchawc rac gododin Eithinyn uoleit mur greit tarw trin